Os yw’r ford yn gyforiog o lyfrau mae’r peiriant CD bron â chyrraedd melt-down. Dyma beth mae DML yn wrando ar hyn o bryd. Cymysgedd ddifyr o gerddoriaeth gyfoes a hiraethus.
Joan Baez, Hits/greatest & others. (Vanguard, 1986, 1973)
Roberta Flack, The very best of Roberta Flack. (Rhino, 2006)
Pet Shop Boys, Fundamental. (Parlophone, 2006)
Neil Young, Living [...]
Ychydig amser yn ôl fe dderbyniais anrheg hyfryd gan gyfeillion o’u gwyliau ar ynys Corisca. Yr hyn sydd o wir ddiddordeb, fodd bynnag, yw’r Siop Spar sy’n cuddio yn y cefndir. Diolch AT am yr anhreg. Dwi’n gwerthfawrogi’r peth yn fawr iawn. Diolch am feddwl amdanaf ar dy wyliau.
Mae’r ford yn llawn unwaith eto wrth i DML orffen darllen y tri llyfr Saesneg ar restr fer Llyfr y Flwyddyn ac yna rhai llyfrau newydd a diddorol Cymraeg ac ambell i lyfr Saesneg arwyddocaol.
Robert Mihinnick, To Babel and back. (Seren, 2005)
Ifor Thomas, Body beautiful. (Seren, 2005)
Kitty Sewell, The ice trap. (Honno, 2005)
Gwyn Thomas a [...]
Maen nhw mas! Hynny yw enwau’r unigolion fydd yn cael eu hurddo i Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn ystod Eisteddfod Abertawe 2006; neu fel sy’n well gen i ddweud, pobol sy’n dod yn un ohonon “ni”. Roedd y stori ar wefan BBC Cymru y bore ‘ma. Mae’r rhestr yn gymysgfa eclectig fel arfer, ond mae [...]
Diolch i’r canlyniad yn erbyn Ecuador mae baner Lloegr yn dal hedfan yng Nghwpan y Byd. Roedd ‘na rai baneri, crysau-T, &c. o gwmpas ddydd Sul, ond yn llai na’r hyn roeddwn i wedi’i ddisgwyl. Heddiw fe welais i gar yn gyrru heibio gyda baner Lloegr a baner Cymru yn chwifio o’r to. Yn anffodus [...]
Roedd ‘na erthygl ddiddorol iawn yn y rhifyn diweddaraf o’r New statesman gan y golygydd gwleidyddol Martin Bright o dan y pennawd ‘Ministers no speaky nothing’. Roedd yn dadlau taw’r rheswm fod y llywodraeth Lafur Newydd yn edrych tuag at y Taleithiau Unedig am ddulliau newydd o ddelio gyda throseddau yw am nad yw’r rhan [...]
Dwi’n gwybod, dwi’n gwybod … mae’r holl newid ‘ma ar Flog Dogfael yn ddiflas. Pam fod popeth yn gorfod newid trwy’r amser? Wel, hoffwn i ymddiheuro am newid ymddangosiad y blog o fewn ychdydig ddyddiau i’w ail-lawnsio. Ond doeddwn i ddim wedi stando bod rhai o fy narllenwyr ffydlonaf yn mynd i gael trafferth yn [...]
Dwi’n gwybod fod pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y Gymraeg ar wefan Traffig Cymru wedi bod yn esgeulus tu-hwnt, fel y sylwodd daflog, ond mae’r wefan yn wych os ydych chi mwynhau gweld llefydd yng Nghymru o safbwynt gwahanol i’r arfer. Dwi wedi dewis cylchfan Pen-sarn, Caerfyrddin ar gyfer y blog, ond mae dewis [...]
Ar ôl ysgrifennu cymaint am fy marn a’m rhagfarnau mae’n anodd iawn peidio dweud a gwneud yr hyn sy’n ddisgwyliadwy gennyf. Mae hynny’n bendant yn wir yn yr achos hyn. Mae Tom Watson, y gweinidog amddifyn, wedi cyhoeddi penderfyniad llywodraeth San Steffan i ‘ddathlu’ pum mlynedd ar hugain ers Rhyfel Malvinas/Falklands. Ac fel hyn y [...]
Diolch i IMJ dwi wedi dod ar draws un o’r blogiau mwyaf gwreiddiol ers tipyn. Mae’n werth ymweld ag ef, http://hitlercats.motime.com/. Dylai’r teitl roi ryw gliw ichi o’i gynnwys, sef ffotograffau o gathod sy’n edrych yn debyg i arweinydd yr Almaen o 1933 hyd at 1945. Mae pawb yn gwirioni ar bethau gwahanol a diolch [...]
Bues i lawr yn Llanelwedd ddydd Gwener mewn cyfarfod o’r undeb Prospect. Ar y ffordd yn ôl, bron yn union ar ôl gadael maes y sioe, lle’r oedd y cyfarfod yn cael ei gynnal, dyma gael ein hunain y tu ôl i un o faniau y Reliance Security Group. Dyma’r cwmni preifat sydd yn gwneud [...]
Dwi ddim yn darllen y Teifiseid, papur gogledd ddwyrain Sir Benfro a de Ceredigion yn aml iawn y dyddiau hyn. Ond fel mae’n digwydd dyma fi’n taro ar draws copi ddoe yn ystafell de Cambria. A’r sioc ges i o ddarllen y newyddion diweddaraf o Grymych! Dyma sut roedd y Teifiseid yn adrodd yr hanes [...]
Dwi newydd orffen darllen ail lyfr rhyfeddol Hefin Wyn ar hanes canu poblogaidd Cymraeg 1980-2000, Ble wyt ti rhwng? Mae’n llyfr difyr, er ei fod yn ymddangos yn drwm ar yr olwg gyntaf. Rhaid imi gyfaddef, fodd bynnag, imi gael mwy o flas ar y gyfrol gyntaf, Be bop a lula’r delyn aur a oedd [...]
Heno fe wnes i gwrdd â dyn mewn tafarn sy’n darllen Blog Dogfael yn gyson. Ond roedd ganddo ofid. Nid oedd Blog Dogfael yn gwneud yr hyn yr oedd yn arfer ei wneud iddo. Dechreuais banico. A oeddwn i wedi dweud unrhyw beth i’w ypseto, rhwybeth na ddylwn i fod wedi’i ddweud. Mae hynny’n rhywbeth [...]
Tybiais ar ôl fy ngwibdaith i ystad ddiwydiannol Glanyrafon y buasai unrhyw daith arall yn ymddangos yn ddiflas. Ond roedd hynny yn gamgymeriad, oherwydd o fewn pedair awr ar hugain roeddwn yn sefyll ar sgwâr Llanbadarn Fawr wedi’r daith bws fer o Aberystwyth. Yr hyn oedd yn fy nenu i Lanbadarn Fawr oedd gweithgaredd eglwysig, [...]
O dan y pennawd Vandals try to burn England flag mae gwefan newyddion y BBC yn adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd i faner S. Siôr yn Kirkcudbright, swydd Dumfries and Galloway. Mae’n ymddangos bod baneri nifer o wledydd yn hedfan yn y stryd fawr ond dim ond baner Lloegr a gafodd ei difa. Rhyfedd, [...]
Yr wythnos hon cyhoeddodd y canghellor Gordon Brown ei fod am neilltuo’r cyllid ar gyfer adnewyddu gallu niwclear annibynnol y Deyrnas Gyfunol. Bydd cael sustem yn lle Trident yn costio rhyw £25 biliwn. Beth allen ni ei wneud â chyfran Cymru o’r arian?
Wrth gwrs, nid yw sylwadau diweddar Tony Blair am ddechrau rhaglen o adeiladau [...]
Wedi imi flogio am Patti Smith fe fues i’n chwilio am fwy o bethau amdani ar y we. Wrth gwrs mae youtube wastad yn lle da i dechrau. A dyna lle des i ar draws y fideo hwn o Patti Smith ar yr Old Grey Whistle Test ar BBC2 yn 1976 yn canu ei chân [...]
Mae darllen yr hanes wedi’r digwyddiad yn gwneud i rywun chwerthin. Yn anffodus gwnes i ddim gweld y peth yn fyw ar S4C2, ond mae’n siŵr fod y bleidlais ar ymchwiliad i mewn i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn debyg iawn i ffars. Yn y lle cyntaf fe wnaeth Jane Hutt anghofio pleidleiso gyda’r Llywodraeth, ond [...]
Gêm gyfartal 2-2 gafodd Lloegr gyda Sweden neithiwr. Felly mae Lloegr wedi mynd i’r rownd nesaf ar ben y grŵp ac yn dod wyneb yn wyneb â thîm Ecuador. Fe gafodd Michael Owen ei gario o’r cae wedi anaf. Roedd yn edrych mewn poen ofnadwy, roeddwn i’n gwingo mewn cydymdeimlad. Wedyn wrth i mi ystyried [...]
|