Mae’r we yn cael y bai am lot fawr o bethau. Efallai bod yr holl gyhuddiadau yn wir, er ‘mod i’n amau hynny’n fawr, ond y we hefyd sydd yn gyfrifol am roi inni olwg amgen ar yr hyn sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas. O’r diwedd does dim rhaid inni dderbyn ein holl newyddion trwy lygaid y BBC neu Rupert Murdoch. Mae lleisiau eraill i’w clywed a’u darllen. Un o’r lleisiau hynny yw MediaLens, gwefan a sefydlwyd gan David Cromwell, David Edwards, a Phil Chandler, i herio ffordd wyrdroëdig y corfforaethau newyddion o edrych ar bethau.
Mewn erthygl ddiweddar yn New Statesman, fel hyn mae David Edwards yn herio’r darlun o etholiadau Irác a gynhelir ddydd Sul fel y’i ceir yn y mwyafrif o’n papurau newydd ac ar y teledu:
In Tony Blair’s latest lie about Iraq, he claims there is “only one side to be on in what is clearly a battle between democracy and terror”. In reality, the 30 January elections will be conducted under a military occupier that controls a puppet government – with the election overseen by the occupying army.The American writer Edward Herman, co-author with Frank Brodhead of the classic work Demonstration Elections, argues that when an occupying power sponsors an election “it is not free and democratic, because it was imposed by an external force and did not come from demands from within”.
Gall y papurau newyddion a’r cyfryngau torfol ein twyllo i gredu nad oes ond un ffordd o edrych ar bethau. Nid wyf yn honni fod David Edwards yn nes at y gwir na’r gweddill, ond mae’n dda ei fod yno i’n gwthio i feddwl yn fwy annibynnol.

![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael