Stori ryfedd oedd honno ganol yr wythnos am reolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yn rhoi cyfarwyddyd i’w staff nad oedden nhw i arddangos baner yr Alban, nac unrhyw faner arall, wrth eu lle gwaith. Yn ogystal â’r faner roedd gofyn hefyd iddyn nhw dynnu unrhyw dartan oedd ganddyn nhw o gwmpas eu desgiau. Ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos yn stori ddwl hafaidd, ond wrth fynd yn ddyfnach i mewn iddi mae’n dod yn amlwg fod gan y Llyfrgell ‘broblem’ gydag un aelod o staff. Ond wrth geisio mynd i’r afael â hynny yn benodol dyma ddatgan fod y faner yn “offensive” ac y gallai gael ei hystyried yn fygythiol gan weithwyr eraill nad oeddent o dras Albanaidd. O ganlyniad bu trafod bywiog ar draws y blogiau a’r safleoedd newyddion ar y pwnc. Rhyfedd meddwl fod trafodaeth o’r fath yn digwydd yn yr Alban ‘hyderus’ o bob man!
Cafodd y digwyddiad sylw gan deledu STV ar raglen The Hour ac mae’n bosib gweld yr eitem ar wefan y sianel deledu. Druan o’r llefarydd ar ran Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.
(Defnyddir y llun o faner yr Alban oddi ar wefan FreeFoto.com).
Dros y penwythnos a aeth heibio cefais i brofiad amheuthun o gyfarfod a thrafod sefyllfa’r Gymraeg a Christnogaeth yng Nghymru gyda’r Parchedig Bill Roberts. Ar yr olwg gyntaf mae hynny’n swnio fel penwythnos arferol a chyffredin – ond yr hyn a oedd yn wahanol yw fod Bill Roberts yn rheithor Eglwys Esgobol S. Gregory yn Deerfield, Illinois, a’i fod wedi dysgu Cymraeg.
Fel y tystia ei enw mae Bill o dras Cymraeg. Mae ar gyfnod sabothol o’i waith, ond mae’n defnyddio’r cyfnod hwn er mwyn dysgu a deall pethau’n well. Ac er mwyn ennill profiadau a fydd yn cyfoethogi ei weinidogaeth a’i ddefnyddioldeb i Dduw wedi’r gwyliau sabothol.
Ei ddiddordeb mawr yng Nghymru yw’r berthynas rhwng adfywiad y Gymraeg a Christnogaeth. Wrth ymchwilio i hyn cafodd gyfle i drafod gyda nifer fawr. Yn ogystal ag Eglwys y Santes Fair yn Aberystwyth yr oedd wedi, neu’n bwriadu, ymweld â’r canlynol: Eglwys Dewi Sant, Caerdydd; Plwyf Dewi Sant, Caerfyrddin; Eglwys St. Mark, Gabalfa (Caerdydd); Eglwys S. Gabriel, Cwm-y-glo; ac Eglwys S. Mihangel, Llanrug.
Ar ben ymweld â’r holl eglwysi hynny mae Bill wedi bod yn ymweld â llefydd eraill a chyfarfod â nifer o unigolion. Wrth i mi siarad gydag ef cefais hanes i ymweliad ag Ysgol Gartholwg (yr hen Rydfelen) lle cafodd gyfle i siarad gyda rhai o’r myfyrwyr hŷn am eu hagweddau tuag at y Gymraeg a thuag at Gristnogaeth.
Cymru yw’r cyntaf o dair gwlad y bydd Bob yn ymweld â nhw ar ei daith. Wedi bod yma bydd yn treulio cyfnod yn Lloegr, a Madagascar. Yn ddifyr iawn mae Bill yn perthyn i fyd y blogwyr ac mae adrodd hanes i gyfnod sabothol, gan gynnwys ei gyfnod yng Nghymru, ar y blog hwnnw. Felly fe ellir dilyn ei deithiau a’i sgyrsiau ar flog St. Blogory’s. Mae’n disgrifio’r blog hwnnw fel hyn: “These are the voyages of the Rector’s Sabbatical. Its three-month mission: to explore three Christian cultures: Welsh-speaking Wales, Emerging Church England, and Anglican Madagascar; to seek out new life and new friends in Christ; to boldly go where Christ has gone before.”
Mae’n ymddangos fod pawb yn ‘cofio’ Thatcher y dyddiau hyn ac fel un sy’n dwlu ar hel atgofion mae’n bryd i fi ymuno yn y sbort a’r sbri. Fe wnes i bleidleisio am y tro cyntaf ddydd Gŵyl Dewi 1979 yn y refferendwm ar ddatganoli. Does dim angen imi ddweud wrth neb wnaeth fyw trwy’r profiad hwnnw fod cysgod y digwyddiadau hyn wedi aros yn eu lle tan 1997.
Felly i mi un ychwanegiad arall at dduẅch y cyfnod yn dilyn refferendwm 1979 oedd cyfnod Thatcher. Dwi ddim yn credu fy mod i wedi sylweddoli beth fyddai effaith ei chyfnod fel Prif Weinidog pan gafodd ei hethol. Roedd pethau’n wael cyn iddi gael ei hethol. Dechreuais i yn y coleg fis Medi 1978 ac roedd y gaeaf hwnnw yn un diflas iawn. Roedd fy rhieni yn gweithio i’r cyngor sir – fy nhad yn un o fois yr hewl a fy mam yn gymorth cartref – roedd nifer o ewythrod a modrybedd hefyd yn gweithio i’r cyngor sir ar yr hewl neu fel cogyddion ysgol. O’r herwydd roedd pethau wedi bod yn weddol ddiflas cyn etholiad Thatcher ac roedd dychmygu gwaeth yn anodd.
Cymerodd hi ddim llawer inni sylweddoli fod pethau’n mynd i fod yn waeth. Yn raddol fe dechreuodd y newid. Preifateiddio a symud y dreth oddi ar incwm i wariant oedd y pethau a gafodd effaith. Pan dechreuais i weithio yn 1981 roedd y toriadau wedi dechrau effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Yna daeth Rhyfel Malvinas pan aberthwyd bywydau a gwariwyd ffortiwn er mwyn amddiffyn hael cymaint o bobl oedd yn byw yn Arberth i fod yn ddinasyddion Prydeinig. Yn sgil hynny daeth yr etholiad cyffredinol, y frwydr gyda’r glowyr a gwahardd undebau llafur yn GCHQ.
Aeth pethau o ddrwg i waeth ac es i yn ôl i’r coleg yn 1985 cyn mynd i weithio i Lyfrgelloedd Morgannwg Ganol yn 1986. Ar ôl tair blynedd yno fe es i weithio yn Aberystwyth. Roedd Margaret Thatcher yn dal yn Brif Weinidog. Yna fe ddaeth Treth y Pen. Fel mae’n digwydd roeddwn i’n yng Ngwlad y Basg yn gwylio’r lluniau ar y teledu o’r reiat yng nghanol Llundain. Roedd yn debyg i’r golygfeydd dros y flwyddyn neu ddwy flaenorol ym mhrif ddinasoedd gwladwriaethau dwyrain Ewrop. Roedd y chwyldro ar ddigwydd.
Bu’n rhaid disgwyl am chwe mis arall cyn y diwrnod pan wnaeth Thatcher gyhoeddi ei hymddiswyddiad. Roedd yn ddiwrnod llawn gwefr – doeddwn i ddim yn cofio gwleidyddiaeth hebddi mewn gwirionedd. Ond wedi ychydig fe sylweddolais nad oedd ei diflaniad yn chwyldro mewn gwirionedd. Fe wnaeth pethau barhau yn debyg iawn. Roedd ein muriau Berlin ni yn dal i fodoli yn ein meddyliau a byddai angen llawer mwy o newid er mwyn eu dymchwel hwy. Un diwrnod o ryddid oedd hwnnw mewn gwirionedd. Roedd e’n ddiwrnod i’w fwynhau ond wedyn yn ôl â ni i’n caethiwed. Ac mae ei chysgod yn dal i fod trosom ni i gyd.
Ar ôl y misoedd o ddisgwyl mae’r diwrnod mawr wedi dod pan fydd mudwyr a siglwyr y byd cyhoeddi Cymreig yn ymgasglu mewn gwesty uwch-foethus yng Nghaerdydd er mwyn dathlu enillydd Llyfr y flwyddyn 2009. Mae tri yn cystadlu am y wobr Gymraeg – Teulu Lòrd Bach gan Geraint V Jones, Petrograd gan Wiliam Owen Roberts, a Pentigily gan Hefin Wyn. Dwi’n gobeithio taw Hefin Wyn fydd yn ennill gyda’i gyfrol sy’n ddathliad o bopeth Cymraeg a Chymreig am Sir Benfro wrth iddo ddilyn llwybr yr arfordir. Ond wrth edrych ar bethau mewn gwaed oer (sef heb fy rhagfarn o blaid unrhyw ysgrifennu sydd â naws y Ddyfedeg arno) yna mae’n debyg taw Wiliam Owen Roberts gyda’i nofel hanesyddol am Chwyldro Rwsiaidd sy’n mynd i ennill. Yr unig obaith yw na fydd y noson wobrwyo yn gweld yr un camgymeriad â llynedd pan gyhoeddwyd enw anghywir enillydd y wobr Saesneg gan y Gweinidog Treftadaeth, ond y cwestiwn mawr o hyd yw pam fod trefnwyr y gystadleuaeth wedi rhoi enwau’r rhai nad oedd wedi ennill yn yr amlen. Maen nhw wedi dysgu eu gwers siŵr o fod.
Ai fi yw’r unig un sy’n synnu i weld fod Gordon Brown yn dal i fod yn Brif Weinidog wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau yr etholiadau Ewropeaidd. Fe wnaeth y Blaid Lafur yn drychinebus, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi tybio y buasai’n ymddiswyddo ddydd Llun diwethaf yn eu cysgod. Ond nid dyna sydd wedi digwydd.
Roedden nhw yn ganlyniadau difrifol i Lafur, ond doedd canlyniadau’r Torïaid ddim cymaint â hynny’n well na’r tro diwethaf ac mae’n rhaid bod hynny wedi lliniaru ychydig ar sut roedd pobl yn edrych arnyn nhw. Wrth gwrs, wrth edrych yn ôl ar ddigwyddiadau yr wythnos yn arwain i fyny at yr etholiadau roedd hi’n amlwg na allai’r canlyniadau fod yn waeth na’r un ymddiswyddiad o’r cabinet ar ôl y llall a welwyd yr adeg honno. I ddweud y gwir mae’n rhaid bod y canlyniadau etholiadol yn ymddangos fel sefydlogrwydd yng nghanol y fath storom.
Felly ar ôl gwneud camgymeriad am hynny dwi’n braidd yn gyndyn i fynegi fy marn ar wleidyddiaeth. Y cyfan ddyweda i yw bydd Gordon Brown yn saff os fydd e’n medru arddangos yr dycnwch ac y gwnaeth Rhodri Morgan wrth ddringo’r Wyddfa ddydd Gwener. Rhyfeddol. Mae’n amlwg y gallai barhau yn ei swydd am dipyn fel yr oedd Huw Lewis wedi gofyn iddo wneud.
Roedd canlyniad Cymru y Blaid Lafur yn siŵr o fod yn siom iddynt. Am y tro cyntaf ers dechrau’r ganrif ddiwethaf roedd plaid arall wedi ennill mwy o bleidleisiau na hwy ar draws Cymru. Y siom i mi oedd taw y Ceidwadwyr oedd y blaid honno ac nid Plaid Cymru, ond roedd y ffaith bod canran pleidlais y Blaid wedi cynyddu o ychydig yn gysur – llongyfarchiadau Jill! – ac fe wnaeth gael mwy nag UKIP hefyd. Nid felly hanes y Democratiaid Rhyddfrydol. Nid yw pethau’n edrych yn dda iddyn nhw o gwbl. Fe geision nhw sbinio eu pleidlais yng Ngheredigion fel buddugoliaeth tra mewn gwirionedd adlewyrchu noson ddiflas iddyn nhw yng Nghymru oedd hyn.
Mae’n amlwg fod y canlyniad wedi gwneud i rai pobl ail-feddwl. Dyna fy esboniad i am gyhoeddiad Mick Bates y penwythnos hwn y na fydd yn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Dyw hi ddim yn edrych yn addawol iawn iddyn nhw yn unrhyw le ar sail y canlyniadau hyn – heblaw am Ganol Caerdydd.
Dwi’n dal i fod yn meddwl am yr unigolyn wnaeth hacio fy mlog dros nos. Dwi ddim yn deall pam, ond mae ‘na rai pobl sy’n mwynhau bod yn gas ac yn cael pleser o ofidio eraill. Mae hynny wedi digwydd i mi ar y blog cyn hyn gyda sylwadau maleisus yn fy erbyn i ac yn erbyn rhai o’m cyfeillion. Dwi wedi’u dileu fel arfer heb ymateb o gwbl iddynt.
Mae’n anodd gwybod beth sy’n rhoi y mwyaf o bleser i bobl fel hyn – rhywun yn ymateb neu ddim yn ymateb. Dwi’n siŵr nad oes ffordd gywir o ymdrin â’r peth. I mi mae’n well peidio ag ymateb a bod yn amyneddgar a goddefgar. ‘Dioddef’ yn ddistaw.
Efallai bod rhai yn credu fod defnyddio gair fel ‘dioddef’ i ddisgrifio sylwadau maleisus neu filain ar flog fel gorymateb. Ond weithiau mae geiriau yn medru gwneud dolur. Wrth gwrs, mae’n dibynnu pa hwyl sydd arna i a beth sy’n digwydd o’m cwmpas. Fel arfer dwi’n medru cysuro fy hun wrth feddwl pa mor wag a diwerth yw bywyd rhywun sydd yn treulio’i amser yn gwneud rhywbeth o’r fath yn hytrach na rhywbeth positif a gwerthfawr.
Bryd arall, pan fo popeth yn mynd o’i le, mae un gair cas yn medru gwneud imi ildio’n llwyr i hunan dosturi a theimlo’n fregus iawn. Dwi’n falch nad yw hynny’n digwydd bob amser, ond rhaid cyfaddef fy mod yn teimlo fel hynny weithiau.
Dwi’n ceisio ystyried pobl eraill wrth ysgrifennu fy mlog i a phenderfynu a fydd fy ngeiriau i yn brifo neu’n gofidio pobl. Dwi’n ymwybodol weithiau nad ydw i’n penderfynu’n iawn. Dwi’n gofyn i’r rhai dwi wedi eu hypsetio yn y gorffennol i faddau imi.
Fe wnes i flogio beth amser yn ôl ar y Deg gorchymyn ar gyfer blogwyr. Mae gorchym 6 yn dweud fel hyn: Na ladd anrhydedd, enw da na theimladau neb arall. Rhaid cofio hynny bob amser.
Roedd y papurau y bore ddoe yn llawn o drafferthion Gordon Brown ac fe ddechreuais i ddychmygu sut roedd e’n teimlo. Dwi’n cael diwrnodau anodd, dwi’n cael trafferthion yn y gwaith o bryd i’w gilydd, ond dwi ddim yn cael fy hunan yn mynd adref gyda’r nos ac yn gweld yr holl beth yn cael ei ail-adrodd a’i ddadansoddi ar y teledu, ei ddarlledu ar y radio a’i drafod yn y papurau newyddion.
Efallai y bydd rhai yn fy ngweld fel rhywun sydd yn yn rhy galon feddal: mae Gordon Brown wedi bod yn gyfrifol yn unigol neu gydag eraill o ddod â hyn i gyd ar ei ben ei hun ac felly mae’n anodd deall beth mae e wedi’i wneud i haeddu fy nghydymdeimlad.
Ond yn sydyn, neithiwr, fe newidiodd hynny i gyd. Beth achosodd y newid? Wel, wrth symud aelodau i mewn mas o’i gabinet fe ddaeth yn amlwg fod y Prif Weinidog wedi penodi Glenys Kinnock i fod yn weinidog dros Ewrop i gymryd lle Caroline Flint – ac ar yr un pryd ei hapwyntio yn aelod o’r Dŷ’r Arglwyddi. Sori, Gordon Brown, mae hynny yn mynd y tu hwnt i fy ngallu i gydymdeimlo ac mae unrhyw obaith o fedru tyneru fy nghalon bellach wedi diflannu.
Mae Blog Dogfael wedi bod yn teimlo’n sâl ers y bore. Dwi’n falch o gael dweud ei fod yn teimlo’n well erbyn hyn. Y bore ‘ma cefais i sioc ofnadwy i weld fod rhyw unigolyn chwerw a gwyrdröedig wedi hacio’r blog a thynnu’r holl gynnwys oddi arno gan adael neges fach fachog – Hacked by Fatal Error. Roedd gweld y geiriau hynny yn ddigon i wneud i mi deimlo’n sâl fel fy mlog. Roeddwn i’n credu fy mod wedi bod yn ofalus ynglŷn â gosodiadau’r ffeilweinyddwr; roeddwn i wedi dilyn y cyfarwyddiadau. Eto i gyd fe lwyddodd yr annymunolyn â gwneud ei ddrygwaith. Dwi wedi llwyddo i ail-osod pethau, dwi wedi llwyddo i gael popeth yn ôl fel yr oedden nhw. Dwi ddim yn gwybod faint yn rhagor y galla i ei wneud i amddiffyn y blog. Ond fydda i ddim yn dawel fy meddwl gan ei bod yn ddigon posib fod rhyw ddrwg yn dal i fod yng nghaws y blog a bydd y cynnwys wedi diflannu cyn y bore unwaith eto ac mae’n ddigon posib y bydd hi’n amhosib imi lwytho’r cofnod hwn. Cawn weld. Dwi’n dal i deimlo’n sâl.
Dwi wedi pleidleisio yn barod yn yr etholiadau Ewropeaidd. Dwi’n ofni nad oes gen i newyddion da i Gordon Brown gan na fydd fy mhleidlais i yn help iddo geisio gadw gafael ar swydd y prif weinidog. Fel unigolyn mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn medru cydymdeimlo gyda’i sefyllfa; wedi’r holl disgwyl am ei dro mae’n rhaid fod ei siom yn ddirfawr i weld popeth yn dadfeilio o flaen ei lygaid. Wrth gwrs cafodd y cyfle fel aelod o’r llywodraeth ers 1997 i wneud rhywbeth am lawer o’r pethau sy’n ei boeni yn awr, ond dewisodd beidio. Mae’n ei fod wrthi’n gwneud llawer o bethau, ac mae’n siŵr y gallai ddadlau fod hyn yn ei gadw’n brysur. Ond mae’n rhaid ei fod yn gwybod nad oedd hi’n bosib i fyw ar gredyd am byth ond byddai gwneud rhywbeth am hynny wedi bod yn anodd. Ond nawr mae materion economaidd yn nghysgod y datguddiadau yn ymwneud â lwfansau a chostau aelodau seneddol ac mae’n edrych yn llai galluog byth i fynd i’r afael â hynny. Ac ar ben hyn mae’r ymddiswyddiadau o’r cabinet yn ystod y dyddiau diwethaf yn gopsi ar y cwbl. A fydd Gordon Brown yn dal i fod yn brif weinidog y Deyrnas Gyfunol erbyn yr eisteddfod? Na fydd mae’n debyg; bydd hynny’n siom bersonol, ond a fydd hynny’n ddigon i helpu’r Blaid Lafur. Ond os nad ydw i’n pleidleisio i Lafur pam fyddai hynny yn fy mhoeni? Wel, does dim angen imi ddweud wrth neb, ond mae’r sustem bleidleisio ar gyfer Senedd Llundain ac Ewrop yn golygu nad oes modd mynegi cymhlethdod sefyllfa mewn unrhyw fodd. Er bod sustem Senedd Ewrop yn un gyfrannol mae’n un gaedig – does dim posib mynegi unrhyw soffistigeiddrwydd fel pleidleisiwr, yn wahanol i sustem y Cynulliad Cenedlaethol. Dwi ddim am bleidleisio i Lafur, ond byddai buddugoliaeth i’r Blaid Geidwadol yn fwy o drychineb i’r wladwriaeth a’i dinasyddion yn fy nhyb i. Effaith aneffeithlonrwydd yw llawer o effaith Llafur; mae’r Torïaid yn cynllunio’r effeithiau gydag argyhoeddiad.
Dwi’n falch fy mod i’n dal yn ddigon diniwed i ryfeddu. Mae’n frwydr fawr yn erbyn sinigiaeth yr oes yn aml, ond dwi’n dal i lwyddo i ymgolli mewn dychymyg. Neithiwr fe fues yn y theatr am y tro cyntaf ers amser. Y rheswm dros fynd oedd i weld cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, sef Tŷ Bernarda Alba (La casa de Bernarda Alba) gan Federico García Lorca (1898-1936) mewn fersiwn newydd wedi’i gyfieithu gan y Dr Mererid Hopwood. Ac fe es i o’r theatr wedi’m hudo unwaith eto gan rym geiriau ac effaith perfformiad theatraidd.
Ysgrifennwyd y ddrama gan Lorca yng nghysgod Rhyfel Cartref Sbaen ac ychydig cyn ei ddienyddio gan rai yn cydymdeimlo â’r lluoedd ffasgaidd. Golygodd hyn na chafodd ei pherfformio nes bod deng mlynedd wedi mynd heibio a hynny yn bell o Sbaen yn Buenos Aires, Ariannin, yn 1945. Erbyn hynny roedd Sbaen yn dioddef o dan lywodraeth unbenaethol Franco, llywodraeth â meddylfryd ormesol y bwriadwyd y ddrama hon i’w herio.
Mae’r hanes yn digwydd mewn tŷ galar lle mae gweddw a’i merched, pump ohonynt i gyd, yn byw bywyd yn edrych i mewn ar ei gilydd ac eto’n dyheu am gael ymadael. Mae’r fam, Bernarda Alba, yn atal i’w merched wybod am beth yw cariad corfforol ac ysbrydol oherwydd y byddai’n dangos pa mor wag y bu ei bywyd hi. Ni all oddef i’w plant brofi’r hapusrwydd hynny nad yw hi ei hun wedi’i brofi. Mae Bernarda yn mynnu rheoli ei merched â llaw drom ofn er mwyn amddiffyn ei henw da ac enw da ei theulu. Does dim ots beth yw teimladau, rhaid ymddangos yn ‘barchus’. Mae’r ddrama yn ceisio dangos pa mor hawdd yr ildiwn ein rhyddid wrth ildio gobaith, dim ond pan eu bod yn dod yn agos i ailgydio mewn gobaith y mae’r merched yn dod yn agos i ddod yn rhydd.
Roedd perfformiad yr actorion yn rymus iawn gyda phob un yn rhannu yn llwyddiant y cynhyrchiad. Roedd gen i ddiddordeb arbennig ym mherfformiad dwy o’r actorion, Rhian Morgan a Betsan Llwyd; Rhian oedd yn chwarae rhan Bernarda, a Betsan y forwyn Ponica oedd yn fodlon dweud gwir weithiau, ond dim ond tu ôl i gefn Bernarda. Roedd y perfformiadau hyn yn arbennig o rymus. Ar ddiwedd y perfformiad cefais gyfle i siarad gyda Rhian a’i llongyfarch, ond hefyd i gyfaddef cymaint o bleser roeddwn wedi’i gael o’r ddrama.
Mae’n rhyfedd, a dyma fi’n rhyfeddu, sut y mae hi’n bosib i ddyn ysgrifennu geiriau ar bapur drigain mlynedd yn ôl a’i bod hi’n bosib i rywrai eu cymryd a’u gwneud yn rhywbeth byw. Mae’n rhaid fod rhyw rin yn y geiriau cyn eu bod yn medru cael eu trawsffurfio fel hyn, ond mae’n rhaid fod rhyw ysbryd yn yr actorion i fedru galluogi’r trawsffurfio hwnnw.
Diolch i’r deg ar hugain o ddarllenwyr Blog Dogfael wnaeth bleidleisio ar ba lyfrau ddylai fod ar restr fer Llyfr y flwyddyn 2009. Bydd y rhestr honno yn cael ei chyhoeddi mewn wythnos yng Ngŵyl y Gelli.
Dyma’r canlyniadau’r bleidlais. Tybed a fydd y beirniaid go iawn yn dod i’r un canlyniad?
Wiliam Owen Roberts, Petrograd (18 o blaid)
Geraint V Jones, Teulu Lòrd Bach (14 o blaid)
Aled Jones Williams, Yn hon bu afon unwaith (11 o blaid)
Gwilym Prys Davies, Cynhaeaf hanner canrif (10 o blaid)
Hefin Wyn, Pentigily (9 o blaid)
Myrddin ap Dafydd, Bore newydd (8 o blaid)
Mared Lewis, Y Maison du Soleil (5 o blaid)
Harri Parri, Iaith y brain ac awen brudd (4 o blaid)
Cefais brofiad arbennig ddoe, sef eistedd mewn iwrt ym Meirionnydd yng nghwmni’r awdur a’r seren deledu, Bethan Gwanas, a’r newyddiadurwr a chyd-olygydd Barn, Vaughan Hughes. Dwi’n prysuro i ddweud nad trwy hap a damwain y digwyddodd hyn, ond trwy rhag-drefniad y cwmni teledu Cwmni Da. Roedd y tri ohonom yn rhan o drafodaeth ar gystadleuaeth Llyfr y flwyddyn 2009 ar raglen Y Sioe Gelf.
Mae pobol teledu wastad yn edrych am lefydd ‘diddorol’ ar gyfer ffilmio ac roedd yr iwrt yn bendant yn ateb y gofyn hwnnw. Roedd yr iwrt ar dir Graig Wen yn Arthog. Roedd yr iwrt ei hun yng nghanol y coed yn edrych lawr ar aber Afon Mawddach. Gyda llaw cartref symudol gyda ffrâm bren wedi’i gorchuddio â defnydd yw iwrt (yurt), ac mae i’w weld mewn gwledydd ar draws canolbarth Asia. Fe’i cysylltir yn bennaf gyda Kazakhstan, Kyrgyzstan, Tajikistan, ac wrth gwrs, Mongolia, lle mae’n cael ei alw yn ger.
Ceir gwybodaeth am sut i godi yurt dy hunan ar wefan WoodlandYurts.
Roedd y profiad o fod mewn iwrt gyda Bethan Gwannas, Vaughan Hughes, Lisa Gwilym a gweddill y criw yn ddigon dymunol. Yr unig beth yr oeddwn i’n poeni amdano oedd y ‘cadeiriau’. Doeddwn i erioed wedi gweld rhai mor isel, ac yn bendant doeddwn i ddim wedi ceisio eistedd ar bethau mor isel. Wrth imi fynd lawr yr unig beth oedd yn mynd trwy fy meddwl i oedd faint o yswiriant oedd gan y Cwmni Da gan fy mod yn credu y buasai angen fforc-lifft tryc o ryw fath i fy nghodi yn ôl ar fy nhraed. Unwaith i ddyn gyrraedd lawr ‘na roedd hi’n ddigon cyfforddus. Rhyfeddod y rhyfeddodau oedd fy mod wedi llwyddo i godi yn ôl ar fy nhraed ar ddiwedd y cyfweliad heb unrhyw gymorth mecanyddol o gwbl!
Wedi’r ffilmio cafwyd te parti bach syml mas tu fas yn yr awyr agored, ac wedyn fe aeth pawb ymadael a mynd yn eu holau i’w cartrefi gan adael yr iwrt yn wag siwrne ‘to.
Ceir llun o’r ffilmio yn yr iwrt oddi ar Flog Graig Wen.
Wedi aros ar fy nhraed yn hwyr heno i weld canlyniadau Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009. Doedd dim gwerth gwneud hynny mewn gwirionedd. Ond dyw dyn byth yn dysgu. Ni chlywais air o enau Graham Norton trwy’r nos, diolch byth. Y canlyniad swyddogol oedd hyn a dyma beth ddywedais i am y caneuon hynny ar twitter.
1. Norwy. Ychydig o addewid yn y dechrau, mwynhau’r ffidlo, ond y gân yn siomedig iawn. A’r dawnsio? Na, dim diolch! 2. Gwlad yr Iâ. Gyda chân fel hyn a honno yn Saesneg mae’r wladwriaeth hon yn haeddu mynd i Dre din! Ych a fi! 3. Azerbaijan. Does gen i ddim llawer i ddweud am hyn er gwaethaf y gwallt a’r ffrog wen. Trueni am y dawnswyr can-can!
Gyda llaw gorffennodd fy newisiadau i fel hyn: Moldofa yn safle 14, Portiwgal yn safle 15, a Bosnia yn safle 9.
Wedi clywed y caneuon i gyd a dwi’n barod i ddweud beth fyddwn ni’n ei wneud. Dyma’r tair cân sydd uchaf yn fy siart bersonol i. Ond byddwn i ddim yn becso gweld yr un o’r tair can yn ennill.
1.Moldofa
2.Portiwgal
3.Bosnia
Tybed a fydd pobl Ewrop gyfan yn cytuno gyda fi? Dwi’n meddwl na fyddan nhw!
Mae’n rhaid taw Albania sydd wedi ennill y gystadleuaeth am y gimic gwaethaf hyd yn hyn gyda’r dyn gwyrdd/emrallt. Yn ‘well’ hyd yn oed nag S&M yr Almaen. Cân uffernol o wael!
Can wych o Moldofa. Dawnsio gwych a’r diwedd gyda’r fanllef! Y cyfan bron â bod mewn Moldofeg hefyd. Mae’n agos rhwng Moldofa a Phortiwgal yn fy meddwl i.
Gwlad yr Ia yn ofnadwy. Dyw hyn ddim yn haeddu cymorth yr IMF i atal y wlad rhag mynd yn fethdalwr. Ofnadwy. Beth Björk druan!Gwlad yr Ia yn ofnadwy. Dyw hyn ddim yn haeddu cymorth yr IMF i atal y wlad rhag mynd yn fethdalwr. Ofnadwy. Beth Björk druan!
Sweden yw fy hoff gystadleuydd hyd yn hyn gyda’r nodau uchel a’r ffrog wen, ond dwi’n gobeithio fod pethau’n mynd i wella neu fe fydd hi’n noson ddiflas.
Mae Cystadleuaeth Cân Eurovision wedi dechrau. Er mwyn osgoi jingoistiaeth ofnadwy y BBC dwi’n mynd i wylio’r gystadleuaeth eleni eto trwy’r we. Efallai bod Terry Wogan wedi pwdu, ond mae ei olynydd, Graham Norton, yn llwyddo i’m cythruddo i hyd yn oed yn fwy. Mae’r sioe wedi dechrau ac mae’r Rwsiaid yn gwneud pethau rhyfedd a chwbl Eurovisionaidd yn barod! Dwi’n mynd i fod yn trydaru trwy’r gystadleuaeth felly gwyliwch y golofn ar y dde.
Trwyddeir Blog Dogfael o dan drwydded Creative Commons Attribution-Non-Commercial-Share Alike 2.0 UK: England & Wales License. Powered by WordPress · Atahualpa Theme by BytesForAll
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael